wardlogoheader
item2
item3

> Steve Davis > Cyfarwyddwr Gweithrediadau

Ymunodd Steve Davis â 4Ward Development yn 2009, gan ddod â 18 mlynedd o brofiad mewn adnoddau dynol, hyfforddiant a rheoli gweithredol gydag ef.

Mae Steve yn berson cymdeithasol sydd yn ei elfen yn helpu datblygu pobl i gyrraedd eu llawn botensial. Yn rhugl mewn Almaeneg, treuliodd Steve 20 mlynedd gyda Chorfflu Arfog Brenhinol y Fyddin. Ers dychwelyd i fywyd sifil yn 1993, mae Steve wedi gweithio ar hyd a lled de Cymru mewn amryw o swyddi ym maes gweithgynhyrchu, ac mae wedi bod yn weithgar gyda Rheoli Gweithredol & HR ac fel Hyfforddwr Dysgu. Yn rhinwedd ei swydd HR mae wedi bod yn weithgar iawn mewn datblygu a gweithredu nifer o strategaethau HR hynod lwyddiannus.

Mae gan Steve amryw o gymwysterau yn y meysydd hyn gan gynnwys Tystysgrif Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD) mewn arferion hyfforddi, a Gwobr ILM Lefel 5 mewn Arwain a Rheoli, ac mae’n Aelod Trwyddedog cyfredol o’r CIPD.

item3

Tu hwnt i fyd gwaith mae Steve yn treulio llawer o amser gyda’i deulu, ac mae’n mwynhau cerdded a theithio. Mae hefyd yn hanesydd milwrol ac yn wybedyn llyfr.

item3
item2a
item2b
item2d
item2e
item2f
item3
item4
teamfull
teamfade
LATEST1a
newfade1a1a